Mae'n Bywydau ni'n Gwella o Gael eu Rhannu

Croeso i wefan Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg. Rydyn ni'n darparu dull amgen o ofalu a chefnogi oedolion ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae gofalwyr yn agor eu cartref eu hunain i rywun sydd angen cefnogaeth yn y gymuned leol.

Beth yw cysylltu bywydau?

Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn cynnig model gofalu unigryw ac arloesol lle mae gofalwyr yn agor eu cartrefi i oedolion sydd angen cefnogaeth ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Boed yn egwyl yn ystod y dydd, yn ofal seibiant neu'n ofal tymor hir, mae gofalwyr yn darparu dewis tosturiol i ofal byw i mewn traddodiadol, byw â chefnogaeth neu ofal preswyl. Mae rhai'n dweud ei fod yn debyg i faethu oedolion a gall gofalwyr ennill dros £500 yr wythnos.

Mae ein cenhadaeth yn un syml: grymuso pobl sydd angen gofal neu gefnogaeth i fyw bywydau llawn, annibynnol tra'n cynnig gyrfa dda a boddhaus, gyda thâl, i ofalwyr.

Ymunwch â ni i drawsnewid gofal yn eich cymuned leol.

Mae'n gofalwyr yn dod o bob cefndir ac yn dewis gofalu am lawer o resymau gwahanol. Maen nhw'n cael eu huno drwy eu dealltwriaeth, eu cydymdeimlad a'u dymuniad gwirioneddol i gyfoethogi bywyd person arall.

Sut mae Cysylltu Bywydau'n Gweithio

Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn paru oedolion sydd ag anghenion gofal neu gefnogaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe gyda gofalwyr cymharus, sydd wedi'u cymeradwyo, yn eu cymuned leol. Mae gofalwyr yn rhannu eu cartref, eu teulu a bywyd cymunedol gyda'r person.

Rydyn ni'n cefnogi pobl gydag anghenion amrywiol yn cynnwys rhai corfforol, synhwyraidd ac amhariadau dysgu, anghenion am gefnogaeth iechyd meddwl, dementia a'r rhai sy'n profi anawsterau wrth reoli gweithgareddau dyddiol wrth iddyn nhw heneiddio drwy eu paru gyda gofalwr. Mae'n gofalwyr yn cael eu hasesu a'u hyfforddi ac wedyn yn agor eu cartref teuluol i'r person sydd angen cefnogaeth.

Y nod yw helpu oedolion sydd ag anghenion gofal neu gefnogaeth i ddatblygu a chynnal eu hannibyniaeth, i adeiladu cyfeillgarwch, i ddysgu sgiliau newydd ac i dyfu cysylltiadau yn eu hardal leol.

Rydyn ni'n edrych am ofalwyr ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe sy'n rhannu ein gwerthoedd. Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod mwy.

Dod yn ofalwr

Mae'n gofalwyr yn dod o bob cefndir ac yn dewis gofalu am lawer o resymau gwahanol. Dysgwch sut y gallwch ddod yn ofalwr.

DYSGU RHAGOR

Angen gofalwr?

Mae Cysylltu Bywydau'n agored i unrhyw un dros 18 oed sydd agen cefnogaeth ychwanegol i fyw'n annibynnol. Dysgwch am y cymorth sydd ar gael.

DYSGU RHAGOR