Dod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau
Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn rhan o gymuned sy'n tyfu o unigolion a theuluoedd sydd â lle yn eu calonnau a'u cartref.
Buddion bod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau
Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd unigolyn, tra'n dod yn rhan o gymuned sy'n tyfu.
Er nad yw Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn gallu gwarantu 'gwaith' di-dor, mae incwm Cysylltu Bywydau yn aml yn sefydlog iawn o gymharu â maethu, gyda llawer o Ofalwr Cysylltu Bywydau â hanes o dderbyn tâl rheolaidd ar gyfer un neu ragor o unigolion sy'n byw gyda nhw neu sy'n ymweld â nhw'n rheolaidd am flynyddoedd lawer a hyd yn oed am ddegawdau.
Rydyn ni wrthi'n ceisio cynyddu'r nifer o bobl sy'n byw gyda Gofalwyr Cysylltu Bywydau. Er mwyn gwneud hyn, ein nod yw cynyddu ein cymuned o ofalwyr.
Mae bod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau yn llawer mwy na dim ond swydd, mae'n dod yn ffordd o fyw ac mae llawer o fanteision mawr eraill.
Gallwch Ennill dros £500 yr Wythnos
Mae'n Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hunan-gyflogedig ac yn cael eu talu drwy'r cyngor lleol
Rhyddhad Treth
Mae gan Ofalwyr Cysylltu Bywydau hawl i ryddhad treth
Hyd at 28 Diwrnod i Ffwrdd
Mae gan ofalwyr tymor hir hawl i gael hyd at 28 diwrnod i ffwrdd
Hyfforddiant
Caiff hyfforddiant wedi'i achredu ei ddarparu, goruchwylio'n rheolaidd, cefnogaeth barhaus a mynediad i gyngor arbenigol
Gweithio o Gartref
Gweithio'n hyblyg o'ch cartref tra'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
Gwiriadau DBS
Gwiriadau DBS wedi'u cynnwys yn rhad ac am ddim
Fe gewch chi ddewis pwy fyddwch chi'n eu cefnogi, a byddan nhw'n eich dewis chi gyda'n proses baru ofalus ni.
Y Broses Geisio
Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn chwilio am bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe i agor eu calonnau a'u cartrefi a dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau.
Does dim cyfyngiad oedran; does dim rhaid i chi fod yn briod, gallwch fod yn sengl, yn gwpl un-rhyw neu gallech fod ag amhariad.
Bydd y cynllun yn darparu'r hyfforddiant fydd ei angen arnoch chi.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n ymroddedig, yn llawn dealltwriaeth, yn dangos tosturi ac sydd â dymuniad gwirioneddol i gyfoethogi bywyd person arall. Mae'n cymaint mwy na dim ond swydd, mae'n angerdd dros wneud rhywbeth anhygoel ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cam 1
Cysylltwch â ni drwy lenwi ffurflen gyswllt neu gallwch estyn allan atom drwy ddefnyddio'r botwm isod.
Cam 2
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich mynegiant o ddiddordeb byddwn yn cysylltu â chi i drefnu dod ar ymweliad i'ch cartref. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod eich cartref yn addas.
Cam 3
Mae'r rhan gyntaf o'ch asesiad yn cynnwys cyfuniad o wiriadau (yn cynnwys DBS), gwiriadau proffesiynol a rhai personol a geirda meddygol.
Cam 4
Bydd Cydlynydd yn cael ei benodi i'ch cefnogi a bydd yn cysylltu â chi drwy gydol y broses drwy gyfrwng ymweliadau i'ch cartref, galwadau fideo neu alwadau ffôn.
Cam 5
Y rhan olaf o'r broses yw cael asesu eich cais gan ein panel cymeradwyo annibynnol sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.
Cam 6
Byddwch wedyn yn cael eich paru gyda rhywun sydd angen gofal.
Cefnogaeth Barhaus
Byddwch yn derbyn cefnogaeth barhaus fydd yn cynnwys: cyngor ac arweiniad arbennig, hyfforddiant wedi'u achredu, cael eich goruchwylio'n rheolaidd a mynediad i Rwydwaith Gofalwyr Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg.
Hyfforddiant
Bydd angen i chi gwblhau'r holl hyfforddiant gorfodol a byddwn yn eich helpu i ganfod a oes angen hyfforddiant pellach gan ddibynnu ar eich sgiliau ac ar anghenion yr unigolyn.
Adolygiadau
Byddwch yn rhan hanfodol o adolygu gwaith papur, lleoliadau a phrosesau. Mae hyn yn rhoi rheolaeth uniongyrchol i chi.