Beth yw Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg?

Mae Cysylltu Bywydau yn golygu eich bod yn gallu byw gyda gofalwr (a'u teulu) yn eu cartref yn eich cymuned leol.

Byddan nhw'n hoffi'r un math o bethau â chi ac yn mwynhau gwneud gweithgareddau gyda chi.

Gallwch aros am gyfnod byr neu gallwch aros am gyfnod hir, beth bynnag sydd ei angen arnoch chi. Er enghraifft, gallwch ymweld â nhw'n rheolaidd neu efallai y byddwch yn symud i fyw gyda nhw.

Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn dod o hyd i ofalwyr i bobl mewn angen yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Abertawe.

Ydy Cysylltu Bywydau yn rhywbeth i mi?

Mae llawer o wahanol bobl yn defnyddio Cysylltu Bywydau.

Efallai bod angen cymorth arnoch chi i fod yn annibynnol ac i wneud eich dewisiadau eich hun.

Efallai eich bod eisiau bod yn rhan o deulu, am wneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o'r gymuned leol.

Sut beth yw bywyd gyda gofalwr Cysylltu Bywydau?

Byddwch yn cael cartref diogel a chyfeillgar gyda'ch ystafell wely eich hyn.

Bydd eich teulu a'ch ffrindiau'n gallu ymweld â chi bob amser.

Bydd eich bwyd yn cael ei ddarparu.

Bydd angen eich arian eich hun i brynu deunydd ymolchi, dillad ac eitemau personol eraill.

Bydd eich gofalwr yn eich cefnogi a'ch helpu i reoli eich arian os oes angen hynny arnoch chi.

Byddan nhw hefyd yn gallu eich helpu i ddysgu sgiliau newydd fel coginio a smwddio a gwneud mwy o bethau ar eich pen eich hun.

Sut ydw i'n dewis gofalwr Cysylltu Bywydau?

Gallwch ofyn i'ch gweithiwr cymdeithasol eich cyfeirio chi neu gallwch chi gysylltu â ni'n uniongyrchol (neu ofyn i aelod o'r teulu neu ffrind i wneud hynny ar eich rhan).

Byddwn yn chwilio am ofalwr y credwn y byddwch yn cyd-dynnu'n dda â nhw. Gall eich teulu hefyd eich helpu i ddewis.

Gallwch ymweld â'r gofalwr yn eu cartref a hyd yn oed aros dros nos i weld a ydych chi'n hoffi'r lle.

Os byddwch chi'n hoffi'r lle, byddwn ni'n gwneud yr holl drefniadau i chi fynd ymlaen gyda'ch dewis o ofalwr.

Cysylltwch â ni - Dechreuwch gysylltu eich bywyd heddiw!

  • 01639 686123
  • westglamorgansharedlives@npt.gov.uk
  • www.westglamorgansharedlives.co.uk