Sut y Gall Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg eich Helpu Chi

Os ydych chi dros 18 oed neu'n symud i fod yn oedolyn a bod gennych anghenion sydd wedi'u hasesu ac yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Abertawe, gallwn eich helpu chi.

Ar gyfer pwy mae Cysylltu Bywydau?

Os ydych chi dros 18 oed neu'n pontio i fod yn oedolyn ac angen rhywfaint o gefnogaeth i fod yn annibynnol, gallai Cysylltu Bywydau fod yn opsiwn da i chi.

Beth bynnag yw eich anghenion, rydyn ni'n gwneud yn siŵr fod eich gofal wedi'i deilwra ar eich cyfer, er mwyn i ni allu eich cefnogi i fyw yn y ffordd rydych chi'n ei dymuno. Rydyn ni'n cefnogi unigolion gydag amrywiaeth o anghenion megis: 

  • Oedolion ifanc sy'n pontio o ofal maeth
  • Unigolion sy'n gwella ar ôl cyfnod yn yr ysbyty
  • Pobl sy'n profi iechyd meddwl gwael
  • Pobl ag amhariadau corfforol neu ddysgu
  • Unigolion niwroamrywiol
  • Oedolion eraill
  • Pobl sy'n byw gyda dementia
  • Rhieni sydd angen cefnogaeth i fyw gyda'u babi/plentyn

Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg ar gyfer pobl yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot sydd angen cefnogaeth ac sydd eisiau byw mewn cartref teuluol.

Mwynhewch fywyd teuluol
Tyfwch eich sgiliau
Dewch yn fwy hyderus
Cyrhaeddwch eich amcanion
Mwynhewch eich cymuned

Sut gallech chi elwa?

  • Gallai Cysylltu Bywydau fod yn opsiwn gwych os ydych chi'n chwilio am fwy o annibyniaeth.
  • Rydyn ni'n gwneud yn siŵr eich bod yn hapus ac yn teimlo'n ddiogel.
  • Mae Cysylltu Bywydau'n opsiwn gwych yn hytrach na dulliau eraill o ofal, fel cartrefi gofal preswyl neu byw gyda chefnogaeth gan y byddwch chi'n cael eich cynnwys fel rhan o deulu.
  • Siaradwch gyda'ch gweithiwr cymdeithasol i weld a fyddai Cysylltu Bywydau'n gallu eich helpu chi.
Cyrhaeddwch eich amcanion
Mwynhewch eich cymuned

Mae Ian a Holly wedi fy helpu i newid fy mywyd yn llwyr.

Chris

Unigolyn Cysylltu Bywydau